Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

blaenaf unrhyw system benodol o athrawiaeth wedi ei chasglu a'i chrynhoi, a'i gosod yn drefnus wrth ei gilydd, ond ymollyngent yn ffrwd ymadroddion y Beibl, heb ofalu cymaint am fanwl ddangos cysondeb y naill gangen o athrawiaeth â'r llall; ac yn wir, fe ymddengys eu bod yn hollol yn eu lle, nid oedd amgylchiadau eu hoes a'u hamser yn galw am nemawr o hyny; yr oeddynt yn gwynebu ar y wlad pan oedd yn gorwedd mewn tywyllwch, anwybodaeth, a difrawder, a gwaith eu tymhor hwy oedd seinio yr alarwm uwch ei phen, er ei deffroi o'i marwol gwsg trwm; ac at y gwaith hwn yr oedd eu meistr mawr wedi eu haddurno â galluoedd corfforol a meddyliol i raddau helaeth iawn. ail dô yr ochr arall, a ddechreuasent osod trefniad o'u golygiadau wrth eu gilydd, gan ymdrechu dangos cydffurfiant a chysondeb y naill athrawiaeth a'r llall, ac yr oedd amgylchiadau eu hoes a'u hamser hwythau, a mwy o alw am hyn nag oedd o'r blaen; yr oedd y wlad erbyn hyn wedi ei goleuo i raddau, ac egwyddorion yr efengyl yn cael eu gosod gerbron mewn dullweddau gwahanol, nes oedd mwy o ysbryd ymofyniad wedi ei gyffroi ynddi, ac ymholi pa fodd y cysonid y peth hwn a'r peth arall â'u gilydd. Gwnaeth Roberts gyda'i ysgrifell yn benaf, a Williams yn yr areithfa, lawer iawn o wasanaeth yn y ffordd hon." Wrth ysgrifenu yn 1888 at ei frawd, Mr. Edward Daniell, Wern Farm, dywedai yr Hybarch William Daniell,