Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Knaresborough, fel y canlyn:— I cannot tell you anything more about Williams of Wern than what Dr. Rees said in his memoir. My memory is very bad. It is between 60 and 70 since I used to write the heads of his sermons. I can just say that I was told that he began his ministry as a pretty stiff Calvinist, but I know that he gradually grew more liberal, and at last I d'ont think he was a Calvinist at all. Y mae y dystiolaeth uchod wedi ei rhoddi gan un hollol gymhwys i farnu—un a ddygwyd i fyny yn y Wern pan yr oedd Mr. Williams yn ei lawn nerth, ac un a'i hedmygai yn ddiderfyn, ac un sydd wedi cael help gan Dduw, yn aros gyda ni hyd y dydd hwn.

Newidiodd Mr. Williams ei farn am y teimlai anhawsder i gysoni y gyfundraeth dduwinyddol gyntaf a fabwysiadodd â gwahanol ranau o Air Duw. Bu darllen y gwaith a elwir yn "True Religion delineated," gan Dr. Bellamy, yn foddion effeithiol i'w ddwyn allan o'r dyryswch yr ydoedd yn cael ei hunan ynddo. O herwydd y cyfnewidiad a gymerodd le yn ei farn ar bynciau athrawiaethol crefydd, ac iddo gael ei adnabod fel Calfiniad cymedrol, tybiodd llawer mai eu dyledswydd hwy yn ngwyneb hyny, ydoedd cau drysau eu pulpudau rhagddo. Yn ei lythyr atom cyfeiria yr Hybarch Isaac Thomas, Towyn, at hyn,—"Pan yr oeddwn yn llanc yn sir Fynwy, y gwelais ac y clywais Mr. Williams. Ei destun oedd, 'Cyfraith