Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr Arglwydd sydd berffaith, yn troi yr enaid; tystiolaeth yr Arglwydd sydd sicr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth.' Rhoddai bwys mawr ar Air Duw yn nychweliad pechadur; ac o herwydd hyny, amheuid gan rai pobl, a gyfrifid eu bod yn selog dros y wir athrawiaeth yn y cyfnod hwnw, nad oedd y gwr mawr o'r Gogledd yn iach yn y ffydd, ac am hyny, ataliwyd ef i bregethu mewn un, os nad mewn mwy, o leoedd ar y daith hono."

Nis gall yr athrawiaeth sydd yn cynyrchu ysbryd erledigaethus yn ei chofleidwyr fod yn ol duwioldeb. Ni ddigalonodd ein gwrthddrych, canys yr oedd ei farn gyda'r Arglwydd, a'i waith gyda'i Dduw; ac efe a aeth rhagddo, gan bregethu yr un golygiadau gyda nerth a goleuni mawr. Cyfnerthwyd ef a Mr. Roberts, o Lanbrynmair, hefyd, gan waith y Parchedigion Dr. Everett, y pryd hyny o Ddinbych, ond wedi hyny o America, Michael Jones, Llanuwchllyn; John Breese, o Liverpool; James Griffiths, Ty Ddewi; a David Morgan, Llanfyllin, ac eraill, yn dyfod allan i ysgrifenu yn gryf a goleu o'u plaid. Gwelsent yr athrawiaethau yr erlidid hwynt gynt o'u plegid, yn gweithio eu ffordd, yn cael eu credu a'u gwerthfawrogi yn gyffredinol. Ceir syniad lled gywir a chlir am y pynciau y dadleuid gynt yn eu cylch yn y "Prynedigaeth," gan y Parch. Thomas Jones, o Ddinbych, ac yn y "Galwad Ddifrifol," gan y Parch. John Roberts o Lanbrynmair. Mae y ddau lyfr uchod wedi