Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/157

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu dwyn allan yn un llyfr gwerthfawr a rhadlawn. Hefyd ceir y wybodaeth helaethaf a manylaf am ddadleuon duwinyddol yr oes hono yn mhob agwedd arnynt, yn "Nghofiant y Parch. J. Jones, Talsarn, mewn cysylltiad â Hanes Duwinyddiaeth a Phregethu Cymru," gan y Parch. Owen Thomas, D.D., tudalen 262—537. Mynai un blaid roddi ystyr fasnachol i'r lawn, gan egluro nad oedd yn golygu ond lawn ar gyfer nifer neillduol o bechaduriaid oeddynt i gael eu cadw, ac nad oedd modd gwaredu neb ond y rhai oeddynt yn nghyfamod y pryniad. Rhoddai y blaid arall ystyr eangach iddo, gan edrych ar yr Iawn yn agor ffordd anrhydeddus i Dduw faddeu, ac achub y rhai oll a'i derbyniant, a heb i hyny anurddo gogoniant llywodraeth Duw. Edrychid ar y rhai a gilient oddiwrth athrawiaeth yr Iawn masnachol, yn gyfeiliornwyr peryglus, yn mhlith pa rai yn amlwg y rhestrid ein gwron. Y mae duwinyddiaeth wedi rhoddi camrau breision mewn cynydd, o'r man lle yr ydoedd yn flaenorol i ddyddiau y "system newydd," hyd ein dyddiau ni, ac yn sicr ni ddylid llesteirio dim, yn y mesur lleiaf, ar ymdrech meddylwyr duwinyddol yn eu gwaith yn ceisio deall gwirionedd yn well; ond yn hytrach, dylid cefnogi pob ymchwiliad gonest er deall yr Ysgrythyrau yn gywirach. Y fath oedd poblogrwydd Mr. Williams erbyn hyn, fel yr oedd arogl hyfryd enaint ei weinidogaeth efengylaidd yn cyflym lenwi y Dywysogaeth,