Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/158

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac oblegid hyny, nis gellid ei lethu i ddinodedd, oblegid yr athrawiaethau a bregethai, er y dymunasai llawer allu gwneuthur hyny. Ychydig flynyddau cyn hyn yr oedd wedi ffurfio cydnabyddiaeth â boneddiges o'r enw Miss Rebecca Griffith, o Gaer; ac ar ddydd Mawrth, Gorphenaf 22ain, 1817, drwy drwydded yn eglwys St. John the Baptist yn y ddinas hono, priodwyd hwynt. Gweinyddwyd ar yr achlysur dedwydd hwnw gan y Parch. R. Caunce. Y tystion, neu y gwas a'r forwyn oeddynt Robert a Sarah Fletcher. Boneddiges amddifad oedd Mrs. Williams cyn priodi. Bu Mr. James Griffith, ei thad, farw Tachwedd 2il, 1793, yn 36 oed, a bu Mrs. Elizabeth Griffith ei mam farw Rhagfyr 27ain, 1813, yn 60 oed. Claddwyd hwynt yn mynwent Capel Annibynol, Heol y Frenhines yn Nghaer. Brodorion oeddynt hwy o ardal y Wern. O ran coethder meddyliol, diwylliant addysgol, lledneisrwydd ei moes, a chrefyddolder ei hysbryd, ei chyfoeth, a'i haelioni, yr oedd Mrs. Williams, yn gymhwys i droi yn nghylchoedd uwchaf ac urddasolaf cymdeithas, heb droseddu yn erbyn rheolau manylaf "Manners of Modern Society;" a hi a wnaeth iddo yntau les, ac nid drwg, holl ddyddiau ei bywyd. Bu iddynt bedwar o blant—Elizabeth, James, Jane, a William. Aethant i drigianu i Langollen. Yr oedd Mr. Williams wedi cychwyn achos i'r Annibynwyr yn y dref hono er's chwe' blynedd cyn hyn, pryd y pregethodd