Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/159

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn ystafell helaeth yn y Royal Oak, oddiwrth Salm cxix. 113, "Meddyliau ofer a gaseais, a'th gyfraith di a hoffais." Buont yn cydymgynull yn y Royal Oak am beth amser, wedi hyny symudasant i dŷ Mr. Thomas Simon. Ond ni chafwyd capel hyd y flwyddyn 1817, yr hwn a agorwyd Hydref 8fed, y flwyddyn a nodwyd. Pregethwyd ar achlysur ei agoriad gan y Parchn. M. Jones, Llanuwchllyn; R. Williams, Rhesycae; C. Jones, Dolgellau; R. Everett, Dinbych; D. Jones, Treffynon; T. Lewis, Bala; D. Griffith, Talsarn, a W. Hughes, Dinasmawddwy. Yr oedd yr ysbryd cenadol wedi deffroi, ac yn cynyrchu gweithgarwch yn yr eglwysi yr adeg hon. Yr oedd y Deheudir wedi blaenori y Gogledd yn y gwaith da hwnw, oblegid mewn cymanfa yn y Groeswen, yr hon a gynaliwyd ar y dyddiau Ebrill 12fed a'r 13eg, 1814, ar gynygiad y Parch. David Davies, Abertawe, penderfynwyd yn unfrydol, fod Cymdeithas Genadol Gynorthwyol yn cael ei sefydlu yn Nghymru, mewn cysylltiad â'r un yn Llundain, ac mai Abertawe oedd y lle cyfaddasaf i gynal y cyfarfod cyntaf. Datganodd yr holl weinidogion oeddynt yn bresenol (a Mr. Williams yn eu mysg) yn y Groeswen, mai buddiol iawn fyddai i'r holl Gristionogion o bob enwad ymuno â'u gilydd yn y symudiad, fel na byddai i unrhyw gyfarfodydd eraill gael eu cynal ar y dyddiau hyny. Cynaliwyd y cyfarfod a nodwyd yn Abertawe ar y dyddiau Mercher a Iau