Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/160

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyntaf yn Awst dilynol. Yr oedd y cyfarfod Cenadol hwnw yn un hynod, nid yn unig am ei fod y cyfarfod Cenadol cyntaf yn y Dywysogaeth, ond am fod presenoldeb yr Arglwydd i'w deimlo ynddo mewn modd nerthol iawn. Nis gallasai y fath ysbryd bendigedig lai nag ymledu, ac enyn sel genadol danllyd yn yr enwad yn y Gogledd hefyd, ac felly y bu. Ymroddodd Mr. Williams, Mr. Jones, Treffynon, ac eraill, a'u holl egni i gychwyn a chefnogi y Gymdeithas Genadol yn y Gogleddbarth. Cynaliwyd cyfarfod yn Llanfyllin, Ebrill 8fed, 1817, i ymddyddan yn nghylch y priodoldeb o sefydlu Cymdeithas Genadol yn Ngogledd Cymru. Nid yw manylion cyfarfod Llanfyllin genym, ond gwyddom ddarfod iddynt benderfynu ynddo, mai yn Nhreffynon yr oedd y cyfarfod nesaf i'w gynal, a hyny mewn cysylltiad â'r Cyfarfod Cenadol oedd i'w gynal yn Nghaer, yn Awst y flwyddyn hono. Cynaliwyd Cyfarfod Cenadol Treffynon ar y dyddiau Awst 12fed a'r 13eg, 1817, yr hwn a elwid "The First Anniversary of the North Wales Missionary Society." Gan fod manylion trefniadau y cyfarfod hwnw ger ein bron,[1] ac o'r fath ddyddordeb, dodwn hwynt yma yn llawn:—Dechreuwyd y dydd cyntaf am ddau yn y prydnawn yn nghapel yr Annibynwyr, pryd y pregethodd y Parch. T. Raffles, D.D., Liverpool,

  1. Allan o'r Evangelical Magazine.