Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/161

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Saesonaeg, oddiwrth Mathew ix. 37, 38; a'r Parch. William Williams, Wern, oddiwrth Caniad Solomon viii. 8. Yn yr hwyr pregethodd Dr. Winter, Llundain, yn Saesonaeg, oddiwrth Luc xiv. 23; a'r Parch. J. Griffith, Caernarfon, yn Gymraeg, oddiwrth Phil. i. 27. Am ddeg dranoeth, pregethodd y Parch. Combes, Haxton Academy, yn Saesonaeg, oddiwrth Mathew vi. 10; a Dr. Lewis, Llanfyllin, yn Gymraeg; oddiwrth Esaiah lv. II. Am haner awr wedi dau, yn yr un lle, cymerwyd y gadair gan D. F. Jones, Ysw., Caer. Gweddiodd Dr. Winter, a darllenodd Dr. Lewis yr adroddiad. Pasiwyd amrai benderfyniadau pwysig. Galwyd sylw y gynulleidfa fawr at sefyllfa y Paganiaid, ac at yr addewidion am lwyddiant yr efengyl, a'r pwys mawr o wneud ymdrechion yn nglŷn â'r genadaeth. Anerchodd Dr. Winter, Llundain; Mri. Reynolds, Caer; Charrier a Philips, Liverpool; Combes, Jones, Treffynon; a Dr. Lewis, y cyfarfod yn Saesonaeg; a'r Parchn. W. Williams, Wern, a T. Jones, Syrior, yn Gymraeg. Yn yr hwyr, pregethodd Y Parchn. P. S. Charrier, yn Saesonaeg, oddiwrth Actau ii. 14, a T. Jones, Syrior, yn Gymraeg, oddiwrth Matthew xxiv. 14. O herwydd gorlawnder, bu raid cynal cyfarfod mewn dau le ar yr un adeg. Yn Nghapel y Methodistiaid Calfinaidd y nos gyntaf, pregethodd y Parchn. C. Jones, Dolgellau (ni roddir ei destun ef), a W. Hughes, Dinasmawddwy, oddiwrth