Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ioan iii. 30. Am haner awr wedi chwech boreu dranoeth, pregethodd y Parchn. J. Reynolds, yn Saesonaeg, oddiwrth 1 Tim. i. 15, a J. Lewis, Bala, yn Gymraeg, oddiwrth Marc xvi. 15. Am ddeg pregethodd y Parchn. M. Jones, Llanuwchllyn, oddiwrth Deut. xxxiv. 10; a D. Morgan, Machynlleth, oddiwrth Dat. xiv. 6. Am haner awr wedi dau, pregethodd y Parchn. D. Beynon, Llanerchymedd, oddiwrth Gen. xlix. 10; a P. Griffith, Llanrwst, oddiwrth Ephes. i. 4. Ac yn yr hwyr pregethodd y Parch. D. Roberts, Bangor, oddiwrth Titus ii. 11; ac i derfynu gwaith y dydd, gweinyddwyd Swper yr Arglwydd dan lywyddiaeth Dr. Winter, a chymerwyd rhan gan amrai o weinidogion eraill hefyd. 'Da yw i ni fod yma,' oedd iaith y gweinidogion a'r bobl oll. Cafwyd cyfarfodydd anghyffredin a hynod iawn."

Y mae yn achos o lawenydd mawr i ni fel enwad, am fod y Genadaeth yn cael cymaint o sylw yn ein mysg y dyddiau hyn, ac yn sicr, gall holl gefnogwyr Cymdeithas Genadol Llundain, pan y maent yn parotoi at ddathlu ei chanmlwyddiant, gymeryd cysur wrth edrych yn ol ar ei gweithredoedd nerthol, a dywedyd, "Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hyny yr ydym yn llawen.' Cymerodd ein gwrthddrych Parchedig ddyddordeb arbenig yn y Gymdeithas Beiblau a'r Gymdeithas Genadol drwy ei oes. Dygwyddodd iddo ddarllen araeth nodedig iawn o eiddo y Cenadwr enwog