Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/163

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Parch. Richard Knill, yn yr hon yr apeliai efe yn daer iawn ar fod i'r Cristionogion yn y wlad hon aberthu rhyw gymaint o'u moethau, megys myglys, a phethau eraill, a chyflwyno yr arian a werid am danynt, i gael Beiblau i'r Paganiaid. Dangosai y gallasai y Pagan druan gael dalen o Feibl argraphedig y pryd hwnw â'r arian a werid ganddynt mewn ychydig oriau am fyglys.

Arferai Mr. Williams ysmygu ychydig yn feunyddiol cyn hyn, ac wedi darllen apeliad toddedig Mr. Knill, parotoai fel arfer, i lenwi ei bibell â myglys, pryd yr edrychodd Mrs. Williams arno, yn nodedig o awgrymiadol, ac mewn llais tyner ac effeithiol iawn, dywedodd wrtho, "Ah! Mr. Williams, dyna ddalen arall o Feibl y Pagan tlawd yn myned i'r tân." Teimlodd yntau y sylw i'r byw, a dywedodd, "Wel, beth a fyddai i mi ei roddi heibio, a rhoddi arian y myglys yn ychwanegol at Gymdeithas y Beiblau," ac felly y gwnaeth efe. Gwel y darllenydd yn nrych yr uchod, nad yw y self denial" a argymhellir mor briodol ar yr eglwysi y dyddiau hyn ddim yn beth hollol newydd. o ran yr egwyddor a'r ymarferiad o hono yn Nghymru, yn gystal a bod yr hanesyn yn ddangosiad o dynerwch cydwybod Mr. a Mrs. Williams. Dadleuodd ac areithiodd Mr. Williams lawer, yn alluog a medrus, o blaid y Cymdeithasau Beiblaidd a Chenadol. Ceir a ganlyn am dano mewn un o gyfarfodydd y Feibl Gymdeithas a gynaliwyd yn