Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/164

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llangollen, i'r hwn y gwahoddwyd ef i gymeryd rhan ynddo,[1] "Yr oedd y Parch. J. Elias a'r Parch. R. Richards, Caerwys, yno fel dirprwyon pwyllgor y Gymdeithas yn Llundain. Hwnw oedd y tro cyntaf i Mr. Williams fod mewn cyfarfod cyhoeddus o'r fath yn Llangollen. Wedi traethu ar fawredd amcan y Gymdeithas o daenu yr Ysgrythyrau dros wyneb yr holl ddaear, cymerai olwg ar y moddion i gyflawni yr amcan hwnw, sef mai trwy gydweithrediad parhaol caredigion y Beibl, mewn cyfraniadau yn unig y gellid gwneud hyny.

"Meddyliwch am yr aber fach ar waelod y nant," meddai, "Ewch ati a gofynwch iddi, i ba le yr wyt ti yn myned mor brysur a diymdroi aber fach?" "Yr wyf yn myned i gludo llongau i India a China, a rhanau eraill o'r byd," atebai hi. "Ti'n myned i gludo llongau? yr wyt ti'n rhy wan i gludo gwialen, heb son am longau." "O," medd yr aber fach, "Y mae aber fach arall yn cyfarfod â mi ychydig yn mhellach, ac un arall draw, ac un arall drachefn, ac afon fawr o'n blaen, ac ni a awn gyda'n gilydd i hono, ac yn hono i'r môr, ac ni a gynorthwywn ein gilydd felly, ac fe gymer y môr ein help ni i gario'r llongau mawrion i holl borthladdoedd y byd. Gofynwch i'r ddimai sydd yn llaw'r eneth fach yna i'w dodi yn y casgliad heno, "I b'le yr wyt ti yn myned, ddimai druan?"

  1. Allan o Ryddweithiau Hiraethog drwy ganiatad Mr Isaac Foulkes (Llyfrbryf) Liverpool.