Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/165

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae ei thinc wrth ddisgyn ar y plat yn ateb, "I anfon Beiblau i'r holl fyd!" "Ti anfon Beiblau i'r holl fyd! Druan o honot." "O, y mae un arall i ddyfod i'm cyfarfod oddiwrth y bachgen bach acw, ac un arall oddiwrth yr eneth yna, ac un arall oddiwrth yr hen wraig weddw yn y fan draw; ac ni awn gyda'n gilydd i drysorfa y Gymdeithas yn Llundain, ac mi ddaw llaweroedd yno i'n cyfarfod ni o bob cwr i'r deyrnas; ac i gyd gyda'n gilydd, drwy barhau o flwyddyn i flwyddyn, nyni a lanwn holl wyneb y ddaear â Beiblau o'r diwedd." Yna, rhoddodd siars ddifrifol i rieni plant ar iddynt eu dysgu i gadw eu dimeiau i'w cyfranu at achosion da, yn lle eu gwario ar felusion. "Hwyrach mai y ddimai a rydd yr eneth fach yna ar y plat heno," meddai, "A dala am argraffu adnod y caiff rhyw bagan yn Affrica fywyd tragwyddol wrth ei darllen." Yr oedd yn Llangollen y pryd hwnw glochydd oedd yn oracl y dref o ran synwyr a gwybodaeth; sylwai hwnw ar ol y cyfarfod, "Bachgen rhyfeddol ydyw bachgen y Wern yna, yr oedd ei araeth heno yn drech o ddigon na'r un o'r lleill." Cafodd Dr. Raffles afael ar chwedl yr aber a'r ddimai, a gwnaeth ddefnydd da o honi; adroddodd hi mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llundain; aeth oddiyno drosodd i'r cyfandir, ac adroddwyd hi lawer gwaith yn y naill wlad a'r llall yn nghyfarfodydd y Feibl Gymdeithas." Yn sicr, "Few and far between," yw y