Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/166

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dynion hyny a allant gynyrchu dywediadau ac areithiau a fyddant yn werth eu hadrodd drosodd drachefn a thrachefn, yn ngwahanol wledydd y byd, ond yr oedd ein gwrthddrych wedi ei freintio â'r ddawn arbenig hono, fel y dengys yr uchod.

Yr oedd Mr. Williams erbyn hyn yn anterth ei boblogrwydd fel pregethwr, a galw cyffredinol am dano o bob cwr o'r wlad, ac anrhydeddid ei weinidogaeth gan Dduw, mewn modd amlwg, yn y nerthoedd dwyfol oeddynt yn cydfyned â hi, yn neillduol felly mewn rhai lleoedd. Adroddir ddarfod iddo gael rhyw oedfa nodedig iawn yn Nghymanfa Horeb, sir Aberteifi. Gan i ni glywed llawer o bethau am dano yn y gymanfa hono, nad oeddym yn gallu gweled profion digonol o'u dilysrwydd, ymofynasom a'r Hybarch William Evans, Aberaeron, fel yr un tebycaf o bawb y sydd heddyw yn fyw, o fod yn gwybod hyd sicrwydd yr hyn a geisiem. Anfonodd Mr. Evans yn garedig ac ar unwaith, yr hyn a ganlyn—"Nid oeddwn yn Nghymanfa Horeb, yn y flwyddyn 1820, a phe y buaswn, yr oeddwn yn rhy ieuanc yr amser hwnw i allu gwybod am ddim oedd yn myned yn mlaen yno. Ond clywais lawer o son am y Gymanfa wedi hyny. Yr oedd Mr. Williams wedi derbyn cais oddiwrth Mr. Griffiths, y gweinidog, yn gofyn iddo bregethu ar "Dduwdod Crist," am y rheswm fod llawer o Undodiaid yn yr ardal, y rhai a fyddent debygol o fod yn y