Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/167

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gymanfa. Pregethodd Mr. Williams yn anarferol o rymus a dylanwadol. Ysgubai y cwbl o'i flaen fel llifeiriant mawr gan nerth ei ddawn ac ardderchawgrwydd ei bethau. Dywedir fod yr Undodiaid wedi colli pob llywodraeth arnynt eu hunain wrth ei wrando. Oedfa i'w chofio oedd hono am oes pawb oedd yn bresenol. Ond nid gwir a glywsoch ddarfod i Mr. Williams syrthio i freichiau Dr. Phillips, ond clywais ei fod yn bryderus iawn cyn dechreu pregethu, ac i Dr. Phillips ei galonogi, drwy ei sicrhau fod gweddiau lawer o'i du. Yr oedd ei bwnc yn un pwysig, a dysgwyliad mawr wrtho, a thorf anarferol o luosog o'i flaen. Dywedai wrth ddechreu pregethu, na safodd erioed o'r blaen gerbron cynulleidfa mor fawr, ond gwyddai y byddai yn wynebu un fwy yn y dydd olaf. Ychydig o droion y cefais fantais i'w glywed, ac ar rai o'r adegau hyny, yr oedd yn ddylanwadol iawn."

Gwelir yn "Nghymanfaoedd yr Annibynwyr," tud. 320, i'r Gymanfa uchod gael ei chynal ar y dyddiau Mehefin 7fed a'r 8fed, 1820, a hyny yn y drefn a ganlyn—"Y dydd raf am 11, bu cyfeillach gan y gweinidogion i ystyried amgylchiadau yr eglwysi. Cafwyd hanes cysurus iawn am lwyddiant crefydd yn ein plith. Am 3, dechreuodd y Parch. S. Price, Llanedi; a phregethodd y Parch. H. George, Brynberian, I Cor. i. 23; a'r Parch. D. Peter, Caerfyrddin, 2 Cor. x. 4; a'r Parch. D.