Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/168

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Jones, Crygybar, Ioan iii. 7. Am 7 yr hwyr, bu 18 o bregethau yn y naill fan a'r llall trwy'r ardaloedd. Yr ail ddydd, am 9, dechreuodd y Parch. J. Phillips, Bethlehem; a phregethodd y Parch. D. Williams, Llanfair, Heb. vi. 18; a'r Parch. W. Williams, Wern, Matthew i. 23. Am 2, dechreuodd y brawd D. Davies, Trefgarn (Zion's Hill wedi hyny), a phregethodd y Parch. D. Griffiths, Trefgarn, 2 Pedr iii. 14; a'r Parch. J. Rowlands, Llanybri, Col. iii. 4. Aeth llawer i'w ffordd yn llawen wedi derbyn blaenbrawf o gymanfa y cyntafanedigion yn y nef, lle na bydd rhaid ymadael mwy." Ceir profion fod yr effeithiau yn wahanol, ac yn rhyfedd ar y dyrfa pan y pregethai Mr. Williams y tro hwnw; canys dywed y Parch. J. B. Jones, B.A., Aberhonddu, yn y Cenad Hedd am 1892, tudal 79—80, fel y canlyn: "Yr oedd Mr. Williams o'r Wern, yn ei lawn glod fel pregethwr yr adeg hono. Daeth torf aruthrol yn nghyd ar yr ail ddydd, prif ddiwrnod yr uchelwyl yn y Deheudir yr amser hwnw. Yn eu plith yr oedd y Parch. D. Davies, Castellhywel; yn dynesu at ei 80 mlwydd oed. Yr oedd wedi cyflawni gweinidogaeth faith yn y cylch hwnw, ac yn barchus iawn. Drwy ei oes cadwasai Ysgol Ramadegol nodedig. Yr oedd yn ysgolhaig gwych, a chyrchai gwŷr ieuainc o bell ato, amrai o honynt a fynent fod yn offeiriaid; ond gan ei fod yn anghredu yn ngwir Dduwdod yr Arglwydd Iesu, gwaharddodd Esgob Ty Ddewi yn