Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/169

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y diwedd i offeiriaid fyned ato am addysg. Yn yr oedfa ddeg o'r gloch y pregethai W. Williams, a'i destun ydoedd, 'Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar Fab, a hwy a alwant ei enw ef Emmanuel, yr hyn o'i gyfieithu yw, Duw gyda ni.' Yr oedd D. Davies yn wr corffol a mawr iawn, yn pwyso oddeutu tri chan pwys. Daeth yn ei gerbyd i'r Gymanfa, yr hwn a gyfleodd ar y maes o flaen areithfa y pregethwr, ac yn agos iawn ato. Cylchynid ef gan y gynulleidfa fawr. Ymaflodd y pregethwr yn ei bwnc gorbwysig gyda nerth anarferol. Yr oedd yn berffaith ystyriol o bwysigrwydd ei waith, ac awyddai argyhoeddi y canoedd gwrthgredwyr oedd o'i flaen, o'r pwys tragwyddol iddynt eu hunain i feddu syniadau gwir am Berson y Gwaredwr. Ni chlywais pa un a lwyddodd i ddychwelyd yr un o honynt i'r wir ffydd am Fab Duw, ond mae yn hysbys iddo effeithio yn ddwys ar y gwr mawr oedd yn y cerbyd o'i flaen. Teimlodd D. Davies yn bur fuan fod yr ymadroddion yn rhy galed iddo allu eu gwrando, a chychwynodd i fyned yn mhellach o'u swn. Trodd ben y ceffyl oddiwrth y pregethwr nes yr oedd ei gefn ei hun ato, ac yna arosodd. Ond pan ddelai ymadroddion grymus ar ol eu gilydd, rhoddai awgrym i'r ceffyl a'r ffrwyn i symud allan, yna arosai eilwaith. Gwnaeth hyny mor aml hyd nes yr aeth i gŵr pellaf y dorf, ac arosodd yno hyd y diwedd a'i gefn ar yr areithle, a'r pregethwr grymus