Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/170

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynddo. Wedi gorphen yr oedfa, aeth D. Davies i'w gartref yn ymyl addoldy Llwynrhydowen. Dywedai ar y ffordd, 'Os yw y dyn yna yn dywedyd y gwir, mae yn annichonadwy i neb o honom ni fod yn gadwedig.' Y traddodiad ydyw, iddo ochelyd dywedyd dim am Berson Crist ar ol hyny am y saith mlynedd olaf yn ei weinidogaeth." Terfynwn y benod hon, heb ychwanegu am yr oedfa dan sylw ond yr hyn a ganlyn drwy ganiatad Mr. Isaac Foulkes (Llyfrbryf), o "Rydd Weithiau Hiraethog," tud. 82—83, "Taflodd y pregethwr olwg ddifrifol dros y dyrfa fawr oedd yn sefyll o'i flaen ar ol darllen ei destun, yna gostyngai ei ben, a chadwai ei lygaid ar y Beibl agored ger ei fron. Dechreuai ymadroddi fel un yn teimlo y tir o dan ei draed, ac yn pwyso ei frawddegau â'i eiriau wrth eu traethu. Cyn pen ychydig funydau, yr oedd yn amlwg fod yr ofn, y petrusder, a'r cryndod wedi ei adael, a'i fod yn teimlo ei draed tano, a'i gerddediad yn cael ei hwylio. Cododd ei wyneb i wyneb y gynulleidfa, heb un arwydd o ofn na phryder arno,—cyn pen y deng munyd yr oedd y dyrfa fawr yn ei law, pob clust wedi ei sicrhau, a phob meddwl wedi ei gyffroi. Aeth yn mlaen i egluro a phrofi y gwirionedd y daethai i ddadleu drosto gyda rhwyddineb, goleuni, a nerth mawr, nes oedd gwynebau y Sosiniaid yn y dorf yn gwelwi, a llawenydd yn pelydru yn llygaid a gwedd eu gwrthwynebwyr. Wedi myned trwy ran ddadl-