Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/171

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

euol y bregeth, trodd at y rhan gymhwysiadol, ac yno torodd yr argeuau; tywalltai allan y fath ffrwd o hyawdledd tanllyd a ysgubai bob peth o'i flaen fel lifeiriant dyfroedd mawrion. Anghofiodd y ddwyblaid yn y dyrfa eu holl ddadleuon ar yr adeg, a gwelid yr Undodwr a'r Trindodwr yn cydwylo, ac yn cydgymysgu eu dagrau â'u gilydd dan y dylanwad. Ni chymerodd y pregethwr arno o'r dechreu i'r diwedd ei fod yn gwybod fod digter na dadl wedi bod erioed rhwng Cristionogion ar y pwnc; er hyny, oedfa oedd hono y cafodd Undodiaeth Sir Aberteifi deimlo hyd ei henaid oddiwrthi. Gostyngodd ei banerau yn y fro hono am amser hir ar ol hyny." Y mae yn rhaid fod rhyw ddylanwadau rhyfedd a hynod iawn yn cydfyned â'i weinidogaeth yn y Gymanfa hono, cyn y buasent yn cynyrchu y fath effeithiau ar y dyrfa fawr, ac yn sier, nid oeddynt yn ddim llai na "nerthoedd yr Arglwydd."