Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

—Ei dderbyn yn gyflawn aelod—Yntau yn ymwrthod â chwareuon pechadurus—Teimlo gwasgfa a chaledi yn ei feddwl—Cael ymwared trwy aberth y groes—Dylanwadau teuluaidd yn fanteisiol iddo —Ei chwaer Catherine ac yntau yn cyd—deithio i Benystryd—Morris Roberts, Gwynfynydd, yn eu gwylio—MR. WILLIAMS yn adgofio am hyny— Ofni cymeryd rhan yn y moddion cyhoeddus Ei fam ac yntau yn gweddio wrthynt eu hunain—Ei weddi gyhoeddus gyntaf—Yr aelwyd yn lle manteisiol i ymarfer ar gyfer yr addoliad cyhoeddus—Hen ddiaconiaid Penystryd gan Gwilym Eden— Buont yn garedig i'n gwrthddrych—Ei barch yntau iddynt—Ei alw yn "Gorgi bach" yn Maentwrog—Hoffi myned i Lanuwchllyn—Mewn enbydrwydd am ei einioes wrth fyned oddi yno tuag adref—Cael ei waredu—Yn cynyddu mewn crefydd—Yr eglwys yn ei anog i ddechreu pregethu—Yntau er yn ofni yn ufuddhau—Ei destun cyntaf—Huw Puw o Dyddyngwladys, yn ei glywed yn pregethu mewn llwyn o goed—Pregethu yn Nhyddynybwlch —Mr. Jones yn ei ganmol—Coffadwriaeth gwr a gwraig Tyddynybwlch yn fendigedig—Y son am ein gwrthddrych yn ymledu—Prinder llyfrau—Ei hoff awduron—Ei chwaer Catherine gynorthwyo Y diafol yn ei demtio—Gorchfygu y demtasiwn Yr Hybarch William Griffith, Caergybi, yn cael ei demtio yn gyffelyb—MR. WILLIAMS yn cael amrai waredigaethau—Myned rhagddo gyda gorchwyl mawr ei fywyd—Pregethu yn effeithiol yn Ábergeirw mawr—Cael profedigaeth ddigrifol wrth bregethu yn Nhyddyn mawr—Ei hunanfeddiant yntau yn ei gwyneb—Pregethu yn "Y Parc," Cwmglanllafar—Barn un o oraclau Llanuwchllyn am dano—Yr enwad Annibynol yn fychan yn Meirionydd ar y pryd—Erbyn hyn wedi cynyddu yn ddirfawr.