Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

helaethach o'r natur ddynol wrth ddilyn ei grefft— Arferion annuwiol yn yr ardal—Anrhydeddu y gwŷr a enillent yn y campau llygredig Yn anhawdd ymgadw rhag cymeryd rhan ynddynt—Y tylwythau teg a'r swynyddion—Ysbrydion yn ymddangos mewn lleoedd neillduol yn yr ardal—Y dylanwadau yr ydoedd ein gwrthddrych yn agored iddynt—Heb gael addysg foreuol—Ysgolion yn ychydig ac yn anaml y dyddiau hyny—Manteision crefyddol yn Llanuwchllyn—Eglwys Penystryd yn ganghen o eglwys Llanuwchllyn—Rhys Dafis yn pregethu yn Medd-y-coedwr—Ein gwrthddrych yn yr oedfa—Gwr a gwraig y ty yn ofni iddo derfysgu yr addoliad—Lewis Richard yn ei gyrchu yn nes i gyfeiriad y tân—Y testun y pregethwyd arno, a'r emyn a ganwyd ar ddiwedd yr oedfa—Y llanc wedi. ei derfysgu yn ei enaid gan y gwirionedd—Bedd-y-coedwr mewn lle unig ac anghyspell—Ychydig o fanylion am helyntion bywyd a symudiadau Rhys Dafis Ei lafur a'i nodweddau—Ei farwolaeth a'i gladdedigaeth—Ei weithredoedd da yn trosglwyddo ei goffadwriaeth yn barchus i'r oesau a ddelo ar ol.

Yr oedfa yn Medd-y-coedwr Capel cyntaf Penystryd—Neillduo Mr. William Jones yno yn weinidog—Prophwydoliaeth yr hen brophwyd o Bontypool am dano—Diwygiad crefyddol yn Mhenystryd—Mr. Jones yn anghofio am ei anifail—Mynegiad yr Hybarch Owen Thomas, Brynmair, am nodwedd WILLIAMS yn ei ieuenctyd—Myned i'r gyfeillach am y tro cyntaf—Y gweinidog a'r eglwys yn methu a deall beth i ddywedyd wrtho