Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/173

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YN y bennod flaenorol, rhoddasom hanes agoriad Capel Llangollen. Bu Mr. Williams yn y Deheudir yn casglu at ddyled yr addoldy hwnw, a chredwn mai cyfeiriad at y daith hono sydd yn Adgofion. y Parchedig D. Jones, Gwynfe, am Mr. Williams fel pregethwr, y rhai a ysgrifenwyd gan Dr. John Thomas, Liverpool. Gan eu bod yn dal perthynas â'r cyfnod sydd yn awr dan ein sylw, rhoddwn hwynt yn y bennod hon—"A glywsoch chwi Williams o'r Wern lawer gwaith Mr. Jones," meddwn i wrth y diweddar Barchedig D. Jones, Pant—arfon, pan yn ei ystafell fechan gydag ef ryw noson yn ngauaf 1847? "Do, mi clywes o lawer gwaith, ac mi weda i chi yr holl hanes y tro i mi i wel'd e a'i glywed e. Biddy (canys felly y galwai efe Mrs. Jones), gwedwch wrth un o'r merched yna am dd'od a thipyn ar y tan yma." Gwelais yn union fod ganddo stori hir i'w hadrodd ac felly gosodais fy hun mewn cyflwr i wrando yn fanwl gan benderfynu cofio yr oll a allwn. "Rown i wedi clywed lawer gwaith am Williams, Wern, taw pregethwr noted oedd e, ac 'rown i'n awyddus am i glywed. 'Roedd son mawr i fod e a'r hen Roberts, Llanbrynmair, a gwyr y North i gyd yn y system newydd. 'Doedd yma neb yn i phregethu hi yn blaen, ond 'roedd Davies, Pantteg, a Griffiths Tyddewi, yn cael i doubto eu bod nhw ynddi—'roen nhw i dau wedi bod yn y North, ond ta beth ryw