Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/174

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sabbath, dyma gyhoeddiad Williams y Wern yn d'od i Gapel Isaac, i fod yno y Sabbath wed'yn. Rwy'n meddwl fod hyn tua'r flwyddyn 1819, ond alla i ddim bod yn siwr. Yr oedd Mr. Williams yn casglu at ryw dŷ cwrdd y daith hono. Doedd dim ryw lawer yma wedi clywed am dano, ond yr oedd yma rai; ac wedi clywed i fod e yn y system newydd. A doe'n nhw yn blasu fawr pan cawson nhw i gyhoeddiad e. Yr oedd Morgan y crydd, tadcu y Stephenses, ac un neu ddau eraill, yn dipyn o Baxterians. Ac roe'n nhw o blaid y system newydd, a gwŷr y North. Rown i wedi dechreu pregethu tipyn er's tro, ac yr oedd yr achos yn cychwyn tua Phontargothi yna, ac mi glywn o Dy'nycoed fod Williams Wern i fod yn pregethu nos Sadwrn yn (nis gallaf gofio enw y ffarm), Llanegwad. Mi benderfynais y buaswn i yn myn'd nos Sadwrn i'w glywed e; a heb weyd dim wrth neb mi gyfrwyais y pony, ac mi aetho yno. Yr oedd Mr. Williams wedi cyrhaedd yno dipyn o mlaen i, ac yn eistedd ar y scrin yn ymyl y tan. Yr oedd e yn llai dyn nag own i yn ei ddysgwyl, ac yn edrych yn ieuengach. Falla i fod e yn ddeunaw ar hugain, ond 'doedd e ddim yn edrych dros ddeg ar hugain. Mae yn eistedd yn ddystaw fel un mewn myfyrdod dwfn, a'r bobl yn dyfod i fewn o un i un. Ond 'doedd e yn gwneud un sylw o neb. "Mae'n bryd dechre," medde rhywun yn mhen tipyn, ac y mae ynte yn codi ac yn myned at ben