y bwrdd, ond yn gomedd myned i ben stol. Fe roddodd benill i'w ganu, mewn swn dwfn, bâs yn odds i ddim own i wedi glywed; ac felly y mae yn darllen ac yn gweddïo heb godi na chyfnewid dim ar ei lais, oddigerth gostwng tipyn weithiau i ryw dôn leddf. Darllenodd ei destun, 'Na ddyweded neb pan demtier ef, gan Dduw y'm temtir.' Siarad yn dawel fel 'rych chi a mina fan yma 'roedd e, a phrofi nad oedd Duw yn temtio neb i bechu. 'Down i 'rioed wedi clywed y pethau gan neb, ac eto 'roen nhw yn bethau cyffredin hefyd. Newydd, ac eto 'roen nhw yn hen; clirio Duw nad oedd dim bai arno fe, a rhoi yr holl fai ar y dyn yr oedd e. Wedi iddo orphen es i'r stabl i nhol y pony, ac adre a mi: a dyna Williams y Wern, meddwn i ynof fy hun, y mae nhw yn son cymaint am dano. Dyw hwna ddim yn bregethwr felly chwaith, ac eto mae rhywbeth ynddo. Mae yn hawdd cofio ei bregeth yr own i yn teimlo nad oedd dim modd ei hanghofio. Aetho i Gapel Isaac boreu Sabbath, 'doedd yno neb ond y fi wedi glywed e, a wydda neb yno mod ina wedi glywed e; yr oedd yr hen gapel yn llawn, llawnach nag arfer o lawer: neb o leoedd eraill chwaith; ond pawb yn treio d'od i glywed y dyn mawr o'r North. Yr oedd y bobl i gyd yn y capel cyn ei fod e yno, ac rown nhw am i mi ddechreu y cwrdd, ond gyda hyny, dyma fe i fewn, ac i'r pwlpud heb weyd un gair wrth neb, ac yn rhoi gair ma's i ganu—
Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/175
Gwedd