Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/176

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Ymddyrcha O Dduw y nef uw chlaw
Oddi yno daw d' arwyddion.'

yn edrych yn well na'r nos o'r blaen, ei lais yn fwy bywiog, a'i ysbryd fel wedi ei gyffroi gan y gynulleidfa. Ei destun ydoedd 'Hwn a ddyrchafodd Duw â'i ddeheulaw yn Dywysog ac yn Iachawdwr i roddi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau.' Bu yn desgrifio Duw yn dyrchafu ei Fab o'r bedd, ac i'w ddeheulaw, ac yn darlunio yr osgordd o angylion yn myned adref, nes yr oedd pawb yn synu at ei brydferthwch, ond 'doedd e ddim yn nerthol, nac mor effeithiol ag y clywswn i ambell un, ond 'doedd dim ymdrech ynddo, 'doedd e yn fforsio dim, ond yn gweyd yn doddedig. Daeth yn mlaen at y bendithion oedd yn canlyn ei ddyrchafiad. 'Edifeirwch a maddeuant pechodau.' Dyna y tro cyntaf i mi glywed y sylw fod yr un pethau yn ras yn eu perthynas â Duw, ac yn ddyledswydd yn eu perthynas â'r dyn. Taw dyledswydd pechadur oedd edifarhau, ond taw gras Duw oedd yn rhoddi yr edifeirwch. Yr oedd e yn gweyd ambell i sylw i beri gwên, ond rhyw air wrth basio fyddai hyny. Yr oedd pawb wedi eu boddio ynddo, er 'doedd neb chwaith yn meddwl ei fod i fyny â'r son oedd am dano. Nid oedd neb o'r rhai oedd yn erbyn y system newydd yn gwel'd bai yn y byd ar y bregeth. Yr oedd ei fod yn Salem am 2, ac mi benderfynais yr aethwn i yno wed'yn i gael ei glywed e drachefn boed a fyno. Daeth