Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/177

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhai o Gapel Isaac i Salem, ond llai o lawer nag fuasech chi'n feddwl i wrando Williams, Wern. Ei destun e yn Salem oedd, 'A byddwch wneuthurwyr y gair, ac nid gwrandawyr yn unig, gan eich twyllo eich hunain.' 'Doedd e ddim agos cystal a'r nos o'r blaen, ac yn mhell iawn islaw y peth oedd e yn Nghapel Isaac, ac eto yr oedd rhywbeth yn mhob peth oedd e'n weyd. 'Roedd e yn myn'd i Abergorlech y nos, ac yn myn'd i de i Brisgen, ac fe geisiodd Mr. Davies gan inau i fyn'd yno i de gydag e. Ar de fe wedodd Mr. Davies wrtho mod ina yn pregethu tipyn. 'O, ai e yn wir,' meddai, A welis i monoch ch'i yn yr odfa neithiwr?' 'Do syr,' meddwn ina. 'Wel 'roeddwn i yn meddwl pan welis i ch'i bore heddyw mod i wedi'ch gwel'd chi o'r blaen.' Dyna i gyd fu o siarad am dana i na mhregethu. Ar ol te mae e yn gofyn i Mr. Davies, 'Pa ffordd yr äf i i'r lle yna yr ydw i, i fod heno? Dowch ch'i ma's gyda mi i'r clos (buarth), mi ddangosa i y ffordd i ch'i,' ebe Mr. Davies. A ma's a ni, a ch'i ellwch wybod nad oedd yr hen Ddavies, Brisgen, yn meddwl fawr o hono, ne fe fuase yn anfon y gwas i'w hebrwng. Ar y clos y mae Mr. Davies yn dangos y pwynt iddo, ac yn ei gyfarwyddo pa fodd i gadw y ffordd. 'Mae hi yn ffordd go ddrwg ond ydi hi?' meddai Mr. Williams. Wel, meddwn i phrisia fawr d'od gyda ch'i, bydda yn ol cyn y bydda nhw yn y gwely.' 'Diolch i ch'i yn wir