Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/178

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

os dewch,' ebe ynte. Ymaith a ni, ond 'doedd e yn gweyd fawr ddim nes'n bod ni ar y mynydd uwch ben Abergorlech, fe ddechreuodd fy holi faint o amser oedd er yr own i wedi dechreu pregethu, ac a own i yn meddwl am weinidogaeth, ac yna fe roddodd i mi ychydig o gynghorion gyda golwg ar bregethu. Dyma nhw mor agos ag y galla i gofio fel y gwedodd e nhw, Treiwch ddeall beth fydd y gwirionedd fydd yn y testun fydd genych. Ei feddwl ei hun yn y gwirionedd a fendithia Duw, ac nid ein meddyliau ni ar y gwirionedd. Cedwch ochr Duw bob amser yn glir. Gellwch fod yn sicr nad oes perygl yr ochr yna—nis gall yr athrawiaeth sydd yn cymylu character Duw fod yn wirionedd. Peidiwch ag ofni traethu y gwirionedd. Nid yr athrawiaeth fwyaf derbyniol gan ddynion, fydd wrth fodd Duw bob amser, ac nid y peth sydd oreu ganddynion yn aml, sydd oreu iddynt. Cofiwch mai lles eneidiau ddylai fod eich amcan yn wastad yn y pulpud. Nid mountebank i ddifyru pobl ydi pregethwr i fod, ond cenad Duw atynt yn achos eu heneidiau.' Diolchais iddo am ei gynghorion. Aeth yntau fel i ryw fyfyrdod ynddo ei hun, ac ni ddywedodd air wrthyf nes bod yn ymyl Ty Cwrdd Abergorlech. Yr oeddwn yn meddwl hwyrach y buasai yn gofyn i mi ddechreu y cwrdd yn Abergorleeh, ond ddaru e ddim, ac yr oedd yn dda gen i hyny, er y buaswn yn gneud pe buasai yn gofyn. Nid oedd pobl Abergorlech yn ymddangos