Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/179

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gwybod fawr am dano, rhagor na bod rhyw ddyn dyeithr o'r North. Cynulleidfa fechan oedd Gweddiodd yn ddwys iawn ar ddechreu y cwrdd, yn fwy hynod nag y clywswn ef o gwbl. Ei destun ydoedd, 'Os chwychwi gan hyny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i'ch plant, pa faint mwy y rhydd eich tad o'r nef yr ysbryd Glan i'r rhai a ofynant ganddo.' Dyna y bregeth oreu o'r pedair. Yr angenrheidrwydd am yr ysbryd Glan, a pharodrwydd Duw i'w roddi. Nid oedd mor hwyliog a'r boreu, ond yr oedd yn llawn mor ddifrifol. Pe buasai y bregeth y nos yn cael ei phregethu mewn llawer man, fe fuasai yr effeithiau yn nerthol iawn. Arhosais ef i lawr o'r pulpud i gael siglo llaw âg ef, a diolchodd i mi am dd'od gydag ef, ac ychwanegodd, os byth dewch chi i'r Gogledd, fe fydd yn dda gen i y'ch gwel'd.' Daethum adref, ond yn y myw nis gallaswn gael y dyn na'i bregethau oddiar fy meddwl. 'Roedd e yn wahanol i bawb own i wedi glywed 'rioed, ond doedd e mor peth own i yn ei ddysgwyl 'chwaith. Yr oedd rhywbeth wedi fy nghlymu wrtho, ac eto, down i ddim yn ei gael y peth own i yn ei ddysgwyl. 'Doedd y Williams Wern oedd gen i yn fy nychymyg, a'r Williams Wern glywswn i nos Sadwrn a'r Sul, ddim yr un peth; a dyna lle yr own i yn meddwl am dano, a pho fwyaf feddyliwn, ucha' i gyd yr oedd e yn myn'd yn fy meddwl; ac am ei bregethau 'doedd dim modd peidio i cofio,"