Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/180

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac wrth adfeddwl yr own i yn gwel'd mwy yn y pethau oedd e wedi weud. Yr own wedi clywed Davies fawr o Abertawe; ac yn ddigon cyfarwydd a Davies, Sardis; a Williams, Llanwrtyd; a Hughes, Groeswen; a Jones, Trelech, a'r holl rai yna; a dysgwyl rown i gael Williams, Wern, yn debyg o ran dawn iddynt, ond 'doedd dim byd yn debyg ynddo i'r un o honynt, ond yr own i ei wel'd hefyd mewn rhai pethau yn rhagori arnynt oll. Allswn i ddim cael y dyn a'i bregethau oddiar fy meddwl. Yr oedd Jones, Crugybar, wedi cael cyhoeddiad Williams, Wern, i fod gyda hwy yno boreu Mawrth, a beth wnaeth yr hen Jones, ond cymeryd mantais ar ddyfodiad Williams, Wern, i gael cwrdd gweinidogion yn Nghrugybar ddydd Llun a dydd Mawrth. Yr oedd Williams yn myn'd i Esgairdawe a Ffald-y-brenin dydd Llun, ac yn d'od i Grugybar dydd Mawrth. Mi benderfynais yr aethwm i Grugybar, boed a fyno, i'w glywed e wed'yn unwaith, ac yr own i yn dysgwyl y daetha fe ma's yno ar ei oreu.

Yr oedd Crugybar yn lle twymn iawn, yr oedd Nansi Jones a Dai Sion Edmunds, a'r hen bobl yno, yn rhai tanllyd dros ben, fel yr own ni yn meddwl, taw, dyna y lle i mi gael ei glywed ei hunan. Erbyn yr oedfa ddeg yr es i yno, ac mi ddeallais yn union fod yno ddysgwyliad mawr am dano. Yr oedd Jenkin Morgan, Pentretygwyn, a Davies, Sardis, wedi pregethu y prydnawn o'r blaen; ac yr oedd rhai