Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/181

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r wags yno, yn gweyd taw ofn pregethu gas e. Peter Jenkins o Brychgoed, bregethodd yn gyntaf, a Jones, Rhydybont, Abertawe yn awr, yn Saesonaeg, yn y canol. Yr oedd rhai o dylwyth y Brunant, wedi d'od yno i'r cwrdd, a rhyw Saeson gyda nhw; ac ar ol i'r bregeth ddarfod dyna Williams, Wern, yn codi ar ei draed, ac anghofia i byth mo'i olwg e. Yr oedd yn hawdd gwel'd arno fod pwysau mawr ar ei feddwl, yr oedd yn ddifrifol, yn brudd o ddifrifol, fel y teimlais i ryw beth yn myn'd trwyddo i pan y cododd i fyny. Rhodd air ma's i ganu,

'Rhwng Piahiroth a Baalsephon
Mewn cyfyngder mwy 'rioed."

A chyn ei fod wedi gorphen y ddwy line gyntaf, yr oedd hen bobl Crugybar a'u penau yn agored fel adar bach yn dysgwyl. Ges i ofn y buase nhw yn tori ma's i folianu ar y canu, fel y gwelis i nhw yn Nghrugybar lawer gwaith, gan mor fywiog yr oe'n nhw pan rows e y gair ma's; ond yr oedd awydd clywed Williams, Wern, mor gry fel na bu yno fawr dyblu. Darllenodd ei destyn, 'Eto ti ydwyt Dduw parod i faddeu. Dyma hi, meddwn wrtho fy hunan, heddyw y gwnaiff hi. 'Doedd ganddo ddim rhagymadrodd. 'Mater y testun ydyw parodrwydd Duw i faddeu," meddai gyda'r gair cyntaf. Yr oedd e fel pe y buasai wedi dyfod yno dros Dduw o bwrpas i ddweyd hyny wrth y bobl; ac yn ymddangos mor awyddus am weyd