Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/182

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei neges fel nas gallasai ymdroi gyda dim arall. Duw yn barod i faddeu, a chael dynion i gredu hyny oedd y cwbl ganddo. Ni chlywais erioed bregeth yn rho'i cymaint o help i feddwl yn dda am Dduw, ac yr oedd yn ei ddarlunio mor barod i faddeu, nes rown i yn meddwl y buase yn dda gan bawb yn y lle droi ato. Bu yn dal ei hwyrfrydigrwydd i gospi, a'i barodrwydd i faddeu ar gyfer eu gilydd. Dyna y tro cyntaf erioed i mi glywed y sylw—nad ydyw arfau dial ddim yn barod, fod eisiau hogi y cleddyf, anelu y bwa, a pharotoi y saethau, a'i fod yn dysgwyl i bechadur pan yn clywed swn y parotoi i ddial i ddychwelyd. Mi glywes hyny lawer gwaith ar ol hyny, ond efe oedd y cyntaf glywes i yn ei weyd. Aeth drwy hanes y mab afradlon yn gadael ty ei dad, a'r croesaw mawr a gafodd pan ddaeth adref, i osod allan barodrwydd Duw i dderbyn pechadur na fu dim erioed yn fwy naturiol. Ch'i allsech feddwl taw darlunio mab afradlon i ryw gentleman farmer yn y wlad yma yr oedd e, gan mor debyg yr oedd e yn wneud o i blant drwg yn gyffredin. Nid oedd dim ymdrech i'w weled ynddo o gwbl, ac yr oedd ei bethau yn llyncu pawb i fyny mor llwyr, fel nad oedd neb yn meddwl am ei lais na'i ddawn. Ryw dôn leddf oedd ganddo yn fwyaf effeithiol pan yn disgyn yn isel, ond yr oedd ganddo floedd rymus, ac nid bloedd 'chwaith, ond rhyw dôn gref yn llanw yr holl le, ac yn myn'd dros bob teimlad. Nid