Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/183

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd yr ungwyneb sych yn y fan, ond drwy eu dagrau yr oedd pawb yn gwenu. Mi glywais yr amenau a'r diolch yn uwch lawer gwaith, ac mi sylwais fod rhai fyddai yn arfer amenu yn uchel wedi anghofio eu hunain yn lan, ac yn methu gwneud dim ond gwrando ac wylo. 'Doedd e yn rhoi dim lle i Amen. Nid oedd dim o'r dymuniadau sydd gan lawer yn eu pregethau ganddo fe—fel 'doedd e ddim yn rhoi bwlch i Amen. Nid gwneud hwyl oedd ei bwnc, ond cael y bobl i gredu fod Duw yn barod i faddeu, a throi ato am faddeuant. Ond pan 'roedd e o fewn ryw bum' mynud i'r diwedd, fe drodd at y gynulleidfa, ac a ofynodd mewn llais tyner, caredig, 'Wrandawyr anwyl, a dreiwch ch'i Dduw am drugaredd? Mi wn fod y diafol am eich rhwystro, ac edliw eich holl bechodau i chwi, ond y mae yma un gair rydd daw byth arno, eto, eto, eto. Dywedodd ef dair gwaith yn uwch, yn gliriach, ac yn dynerach bob tro, ac erbyn y trydydd tro mi welwn Nansi Jones ar ei thraed, ac yn taflu ei breichiau ar led, a'r 'O diolch' cynhes, clochaidd, yn echo yr holl le, a Dai Sion Edmund yn ei dilyn a phawb yn cydymollwng i ganmol am yr uchaf, ac felly y terfynodd y cwrdd. Gweddiodd Williams, ond chlywodd neb yr un gair wedodd e, ond yr own i yn gwel'd ei wefusau yn ysgwyd, ac ar ol y cwrdd mi es i tuag adre wedi clywed Williams, Wern, mor uchel ag y gallasai un dyn ffaeledig mewn cnawd fod. Dyna i ch'i fy hanes i