Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/184

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am Williams, Wern. A dyna i'r darllenydd yr hanes mor gywir a chyflawn ag y gallaf finau yn mhen tair blynedd ar hugain gofio adgofion y Parch. D. Jones, Gwynfe, am Williams o'r Wern. [1]"

Yn Hanes Bywyd y Parch. Richard Knill, tud. 257, dywed y Parch. John Angel James fel y canlyn: "In some of the paintings of the old masters there is the work of more hands than one. The more important and prominent subjects of the picture were elaborated by the artist who designed the piece, while the subordinate 'parts were left for others to finish." Felly yma, nid yn unig yr oedd Mr. Jones wedi dilyn Mr. Williams yn ddyfal, a sylwi arno yn fanwl, ond gwelir hefyd, ol llaw fedrus Dr. Thomas yn perffeithio llinellau y picturei orpheniad, fel rhwng y ddau, anrhegwyd ni â darlun rhagorol o Mr. Williams, drwy gyfrwng pa un y galluogir ni i weled yn gliriach y fath un ydoedd fel pregethwr. Pan ddarllenodd Dr. William Rees yr "Adgofion" blaenorol, gresynai am na buasent yn ei feddiant ef pan yr ydoedd yn ysgrifenu Cofiant Mr. Williams fel y gallasai eu rhoddi ynddo. Er mai fel pregethwr o'r radd flaenaf yr enillodd Mr. Williams y fath enwogrwydd, eto, na feddylied neb ei fod yn cyfyngu ei wasanaeth yn unig i'r pulpud;

  1. Tyst Cymreig, Medi, 1870.