Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/185

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

na, yr oedd ei ofal ef yn ymestyn i bob cyfeiriad. Ei dalentau dysglaerwych, a'i arian yn cael eu cyflwyno yn ewyllysgar, er cynorthwyo a chefnogi pob symudiad daionus yn y tir. Yn yr adeg hon teimlai Mr. Williams yn arbenig, yn nghyda'r Parchn. C. Jones, Dolgellau; J. Roberts, o Lanbrynmair; D. Morgan, Machynlleth, ac eraill o arweinwyr yr enwad Annibynol yn y Gogledd yn wyneb y camgyhuddiadau a'r camddarlunio oedd arnynt, fod ar yr enwad angen mawr am gyhoeddiad enwadol i egluro a dysgu ei egwyddorion yn eglwysig ac yn wladol i'r Dywysogaeth; ond yn y Gymanfa a gynaliwyd yn y Rhos ar y dyddiau Medi 26ain a'r 27ain, 1820, yr ymddyddanwyd gyntaf yn gyhoeddus ar y priodoldeb o gychwyn y Dysgedydd Crefyddol, fel y gelwid ef ar y dechreu. Dychrynai rhai wrth feddwl am y fath ymgymeriad, ond erbyn y cyfarfod a gynaliwyd yn Ninbych, Tachwedd 1af, 1821, i hyrwyddo yr amcan teilwng hwnw, yr oedd pethau wedi addfedu i'r fath raddau, fel y tynwyd allan gytundeb ysgrifenedig cydrhwng cychwynwyr y Dysgedydd, ac arwyddwyd ef ganddynt. Wele gopi o hono:—"Articles of Agreement," &c., 1821, Nov. 1st.

1. We, whose names are underwritten, have all and severally agreed, to publish a monthly Magazine, to be called Dysgedydd Crefyddol, Price 6d. per No.

2. That we shall forward to the Editors, some