Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/188

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

beirniadol ar ranau o'r Ysgrythyrau:—B. Jones, a T. Lewis, Pwllheli; W. Williams, Wern; E. Davies, Drefnewydd; W. Jones, Caernarfon; T. Jones, Newmarket, &c.

3. Hanes yr Eglwys o ddyddiau yr Apostolion:—D. Morgan, Machynlleth, a E. Davies, Rhoslan..

4. Hanes dechreuad a chynydd Sefydliadau Crefyddol, &c. :—D. Roberts, Bangor, a J. Breese, Liverpool.

5. Hanes Cenadaeth yr Efengyl yn mhlith y Paganiaid:—D. Jones, Treffynon; R. Everett, Dinbych.

6. Hanesion Gwladwriaeth yn bur fyrion, sef y pethau mwyaf hynod, ac yn enwedig y pethau y byddo un berthynas rhyngddynt a chrefydd:—C. Jones, Dolgellau, a J. Jones, Machynlleth.

7. Barddoniaeth,—W. Hughes, Dinas Mawddwy; T. Williams, Rhes-y-cae: J. Thomas, Chwilog; T. Jones, Liverpool; Gwilym Cawrdaf a Morris Davies o Ddolgellau, &c.

8. Amrywiaeth,—

Sylwer yma, nad yw nodi materion neillduol i bersonau neillduol, megys uchod, yn atal y personau hyny i ysgrifenu ar bethau eraill, ar un cyfrif, ond dysgwylir iddynt hwy (a phawb a ewyllysio) wneud eu goreu ar y materion eraill hefyd. Heb ffyddlondeb yn y personau uchod, nid all y gwaith fyned yn mlaen yn rheolaidd.

IV. Fod un yn cael ei osod yn mhob sir yn