Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/189

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dderbynydd ysgrifau, oddiwrth y rhai a fyddo yn danfon i'r DYSGEDYDD yn y gwahanol siroedd, sef yn Sir Drefaldwyn, John Roberts, Llanbrynmair:—

Sir Gaernarfon, David Roberts, Bangor:—Sir Fon, John Evans, Beaumaris:—

Sir Feirionydd, Michael Jones, Llanuwchllyn:—Sir Ddinbych, Robert Everett:—

Sir Fflint, David Jones, Treffynon.

V. Dysgwylir i bob eglwys i benodi rhyw un crefyddol yn eu plith i fod yn Ddosbarthwr y Rhifynau, ac i dderbyn tal am danynt, ac i ddanfon yr arian at y derbyniwr ysgrifau yn ei sir ei hunan, bob tri mis yn y Gogledd, a phob chwech mis yn y Deheudir.

VI. Fod dymuniad a dysgwyliad ar i'r brodyr yn y Deheudir i roddi pob cymhorth a allant i fyned a'r gwaith yn mlaen, drwy anfon defnyddiau ac ymdrechu i'w gwerthu.

VII. Fod y dirprwywyr i gyd—ddwyn y golled, os felly y bydd. Ond os bydd y gwaith yn troi allan yn dda, er enill wedi talu pob traul, fod yr enill i gael ei ddefnyddio, dan olygiad y dirprwywyr yn y ffordd y barnant oreu er helaethiad achos Iesu Grist.

VIII. Fod y cyfrifon a berthyn i'r cyhoeddiad i gael eu sefydlu yn flynyddol gan y dirprwywyr.

Hysbysir yma fod i bawb ddanfon eu hysgrifau yn ddidraul,"