Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/190

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn ngoleuni yr uchod, gwelir mor ddeheuig a gofalus oedd cychwynwyr y Dysgedydd yn eu hymgymeriad pwysig. Diau mai angenrhaid oedd iddynt fod felly, canys nid anturiaeth fechan mewn un modd oedd cychwyn cylchgrawn misol ac enwadol y pryd hwnw, a'i bris yn chwe'cheiniog y rhifyn. Dechreuwyd cyhoeddi y Dysgedydd yn rheolaidd yn Ionawr, 1822. Cyfarfyddodd â gwrthwynebiadau lawer, ond daliodd ei dir, ac ychwanegodd gryfder a dylanwad daionus yn mhob cyfeiriad, a heddyw, ar ol gwasanaethu am ddeuddeg mlynedd a thriugain, y mae ei dderbynwyr yn fwy niferus nag erioed o'r blaen, a dylent fod yn lluosocach eto. Bu gwŷr galluog yn Olygwyr arno, o'r Hybarch. C. Jones, ei Olygydd cyntaf, hyd y gwr galluog a phoblogaidd sydd yn ei olygu yn awr mor fedrus a llwyddianus, a phell iawn fyddo y dydd pan yr ymddeola y Prifathraw E. Herber Evans, D.D., o'r Olygiaeth. Ymroddai Mr. Williams â'i holl egni i wasanaethu achos yr Arglwydd yn mhob modd gartref ac oddicartref yn y cyfnod hwn. Anghofiai ei gysuron cartrefol a theuluaidd yn hollol, gan yr awyddfryd oedd ynddo i wneuthur daioni yn gyffredinol. Cawn ef mewn cyfarfod cenadol pwysig yn Nghaernarfon, Hydref 5ed, 1821, yr hwn a gynaliwyd yn Llysdy y Sir; a thraddododd araeth effeithiol iawn yn y cyfarfod hwnw, sylwedd yr hon sydd fel y canlyn:—"Pan oedd Gedeon yn myned i ryfel, yr oedd yn