Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/191

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gorchymyn i'w lu udganu yn yr udgorn o amgylch y gwersyll, "Cleddyf yr Arglwydd a Gedeon," ni allasai Gedeon wneud dim heb gleddyf yr Arglwydd, ac nid ai cleddyf yr Arglwydd ei hunan, heb ro'i yr anrhydedd i Gedeon i ddyfod gydag ef. Mae pob peth yn cydlefain am ein bywiog gydweithrediad i anfon yr efengyl at y paganiaid; mae mur gwahaniaeth rhwng Iuddewon a Chenedl—oedd wedi myned i lawr, mae y meirw sydd yn eu beddau yn gwaeddi am i ni wneud eu colled hwy i fyny―y genedl sydd yn dyfod ar ein hol, megys yn gwaeddi am i ni ro'i esiampl deilwng o'u blaen hwythau yr holl greadigaeth fawr i gyd yn cydruddfan o eisiau i'r gwaith yma fyned yn mlaen yr haul megys yn dweyd, yr wyf fi wedi tywynu 1800 o flynyddoedd ar Affrica er pan groeshoeliwyd y Gwaredwr, a ydych chwi ddim am anfon gwybodaeth o hono bellach yma? Pob deilen o de yr India, a phob gronyn o goffi y Tyrciaid, a phob llwchyn o siwgr yr India arall megys yn dywedyd, danfonwch efengyl yn ein lle; y mae coed y maes fel yn gwaeddi, ni a wnawn longau; y carth, gwnawn ninau hwyliau; y llin, gwnawn ninau bapyr i argraffu Beiblau; y môr bob tro y daw ei lanw dros fanciau Caernarfon, fel yn gofyn a oes neb yn foddlon i fyned drosodd i gyhoeddi yr efengyl dragwyddol; angylion y nef yn galw; ymysgaroedd trugarog Duw, ïe, gwaed y Cyfryngwr bendigedig yn galw