Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/192

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arnom i ddeffroi o gwsg pechadurus, ac anfon yr efengyl i'r holl fyd. Ond wrth wneud pob ymdrechiadau, ystyriwn yr angenrheidrwydd o ddwys weddi at Dduw am ddylanwadau y Tragwyddol Ysbryd i orphwys yn fwy helaeth ar bob gweinidog, ac ar bob Cristion yn gyffredinol.

Yn y flwyddyn 1822, dymunodd Mr. Williams am gael ymryddhau o'i ofal gweinidogaethol yn Llangollen a Rhuabon, ac yn ol ei gynghor i'r ddwy eglwys, cytunasant â'u gilydd i roddi galwad i Mr. Davies o Athrofa y Drefnewydd i ddyfod i'w bugeilio. Cynaliwyd cyfarfod yn Llangollen i'w ordeinio, Awst 29ain, 1822. Ychydig cyn hyn y symudodd Mr. Williams o Langollen, gan fyned i fyw i'r Talwrn, anedd dawel a hyfryd rhwng y Wern a'r Rhos. Profodd y symudiad hwn o'i eiddo yn fanteisiol iddo ef, ac yn fendithiol iawn i eglwysi y Wern a'r Rhos, y rhai a flodeuent yn brydferth, ac a gynyddent beunydd dan ei weinidogaeth gyfoethog. Teithiai hefyd i leoedd pell oddiwrth eu gilydd yr adeg hon. Cawn ddarfod iddo, Mai 9fed, 1823, bregethu pregeth genadol hynod iawn yn Llundain oddiar Haggai i. 2—6. Oddiwrth lyfr cofnodion y diwedd—ar Mr. Richard Griffith, Ty mawr, Aberdaron, yr hwn oedd yn hanesydd, hynafiaethydd, a chofnodydd campus, gwelir ddarfod i Mr. Williams bregethu Tachwedd 17eg, 1823, yn Aberdaron, oddiar y geiriau "Ac eraill, gan ei demtio, a geisiasant