Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/194

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ganddo arwydd o'r nef." Gan nad oedd yno gapel, bwriedid cynal yr oedfa mewn ty anedd o'r enw Hen Blas, ond pan welwyd y bobl yn dylifo i lawr o'r Rhiw a thrwy Ben y Caerau, deallwyd yn fuan mai ofer oedd meddwl am bregethu yn y ty. Er mai Tachwedd ydoedd, eto yr oedd yr yr hin yn hyfryd y dydd hwnw. Ceisiwyd gan Mr. Williams ddyfod allan i bregethu, a chydsyniodd yntau â hyny. Gweithiwyd rhyw fath o fanllawr ar unwaith; ac erbyn hyny, yr oedd y pentref yn llawn o bobl, yn awyddus am ei glywed. Dangosai y pregethwr, a hyny mewn modd goleu ac eglur iawn,. fod gan y dyn ei hunan rywbeth i'w wneuthur er ei gadwedigaeth, cyn meddwl am arwydd ychwanegol o'r nef. Dychrynodd yr uchel—Galfiniaid oedd yno wrth glywed y fath athrawiaeth yn cael ei thraddodi iddynt. Wedi myned adref, a meddwl llawer am y pethau a wrandawsai, methai yr hen John Williams, Deuglodd, a gofyn bendith ar y bwyd; ac a defnyddio geiriau Mr. Richard Griffith, ei gâr, "yr oedd yr hen ffwlcyn yn sefyll wrth y bwrdd, ac yn ymsgrwtian gan ofyn, "Dyn, dyn, beth fedr dyn wneud, beth fedr dyn wneud?" Beth bynag am hyny, cafwyd rhyw oedfa eneiniedig, a grymus nodedig y tro hwnw yn Aberdaron, yr hon a barodd i lawer un ofyn o ddifrif, "Beth sydd raid i mi ei wneuthur fel y byddwyf gadwedig?" Heblaw bod yn wasanaethgar ei hunan, anrhydeddwyd Mr. Williams, a'r eglwysi o dan ei ofal, â'r fraint