Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/195

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o gael codi a chychwyn pregethwyr, y rhai a fuont yn wir ddefnyddiol i'r enwad Annibynol, ac i grefydd yn gyffredinol. Yn nhymhor ei weinidogaeth ef yn y Wern, y cyfodwyd yno i bregethu y gweinidogion defnyddiol a ganlyn, y Parchn. Robert Morris, Saron, Tredegar; a Moses Ellis, Mynyddislwyn; ac un o'r Wern yw yr Hybarch William Daniell, Knaresborough; ond yn Manchester y dechreuodd ef bregethu. Yn eglwys y Rhos y dechreuodd yr hynod Ismael Jones, a'r Parchn. Robert Thomas, Hanover, a Samuel Evans, Llandegla, bregethu. Yn eglwys Harwd y cyfodwyd y Parch. Edward Davies, M.A., yr hwn a fu Athraw galluog yn Ngholeg Aberhonddu gyfnod maith; ac yn Harwd hefyd y cyfodwyd y Parch. William Thomas, yr hwn a fu yn weinidog cymeradwy yn Nwygyfylchi, ac wedi hyny yn Beaumaris. Er cymaint a sonir am aflwyddiant eglwys Harwd yn nyddiau Mr. Williams, eto yr ydym yn ystyried ein bod yn ddyledus iddi, pe na buasai wedi gwneuthur dim ond rhoddi i ni y dynion ardderchog a nodwyd.