Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/196

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VIII.

O'R OEDFA YN ABERDARON HYD YR OEDFA YN NGHAPEL Y WESLEYAID YN Y RHOS 1823—1831

Y CYNWYSIAD—Cyfnod arbenig yn hanes MR. WILLIAMS—Cymanfa Llanerchymedd—Darluniad Gwalchmai o'n gwrthddrych yn pregethu ynddi ar y "wlad well" Helaethu Capel y Wern i'w faintioli presenol— Eglwys Rhuthyn mewn helbul—MR. WILLIAMS yn gwasanaethu mewn angladd yn Rhuthyn—Rhoddi Harwd i fyny—Llythyr at y Parch. C. Jones, Dolgellau—Crynodeb o bapyr yr Hybarch S. Evans, Llandegla—Nodwedd MR. WILLIAMS fel gweinidog a bugail—Llythyr y Parch. R. Roberts, Rhos—MR. WILLIAMS yn addaw myned i bregethu i'r Beast Market, Wrexham—Cael oedfa hynod yno—Gweinidog perthynol i'r Ranters yn tystio mai o dan bregeth MR. WILLIAMS yr argyhoedd— wyd ef—Merch ieuanc o'r Frondeg yn ymuno â'r Ranters yn Wrexham—Ei mam yn pryderu yn ei chylch MR. WILLIAMS yn tawelu ei meddwl— Tystiolaeth y Parch. J. Rowlands, Talsarn, am "Bregeth y mamau" yn y Rhos

YR ydym yn awr yn nesau at gyfnod arbenig ac amlwg iawn yn hanes ein gwrthddrych parchedig, ac yn dyfod i edrych ar un o'r oedfaon hynod, yr hon a adwaenir hyd y dydd