Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/197

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heddyw, fel yr un a gododd yr enwad Annibynol i fwy o sylw a pharch drwy holl Ynys Mon, nag oedd iddo yn y wlad cyn hyny. Cyfeirio yr ydym at Gymanfa Llanerchymedd, yr hon a gynaliwyd Mehefin 16eg a'r 17eg, 1824; am yr hon y clywsom lawer, yn enwedig am yr effeithiau grymus a nefol a deimlid ynddi, pan bregethai Mr. Williams ar y "wlad well." Gan fod amseriad y Gymanfa hono yn dal perthynas a'r cyfnod hwn, nis gallwn ymatal heb roddi yma y darluniad campus a ganlyn o'r oedfa hono gan y Parch. R. Parry, (Gwalchmai), yr hwn a welir yn y Dysgedydd Hydref, 1877, tudalen 295, 296. "Gellid golygu ei ymweliad â Mon yn amser y Gymanfa hynod hono yn Llanerchymedd, fel cyfnod arbenig yn ei fywyd. Y mae yr amgylchiadau ar gof a theimlad nifer yn yr Ynys hyd y dydd hwn. Yr oedd yn nghanolddydd ei boblogrwydd y pryd hwnw, ac yr oedd dysgwyliad mawr am dano, a'r son am ei fod i bregethu yn y gymanfa wedi cyrhaedd pob man. Nid oedd y cyffredin yno wedi ei weled na'i glywed erioed; ac yr oedd yn naturiol dysgwyl y byddai nifer y gwrandawyr yn lluosocach nag arferol. Pregethodd y nos gyntaf yn Nghapel y Methodistiaid; ni addawai bregethu ddwywaith ar y maes, ac yr oedd yn eglur ei fod yn cadw ei nerth erbyn dranoeth. Ei bwnc oedd addysgiaeth gref—yddol yr ieuainc, oddiwrth Salm lxxviii., "Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd