Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/198

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyfraith yn Israel, y rhai a orchymynodd efe i'n tadau eu dysgu i'w plant, fel y gwybyddai yr oes a ddel, sef y plant a enid, a phan gyfodent, y mynegent hwy i'w plant hwythau, fel y gosodent eu gobaith ar Dduw, heb anghofio gweithredoedd Duw, eithr cadw ei orchymynion ef."[1] Enillodd serch y bobl yn lan ar y bregeth gyntaf. Yr oedd y cynulliadau dranoeth yn lluosocach na dim a welwyd o'r blaen gyda'r enwad. Pregethai Mr. Williams am 2 o'r gloch; yr oedd yr hin yn frwd, yr awel yn drymllyd, a theimladau y dorf yn swrth. Pregethai un Mr. Lewis, o Bwllheli, o'i flaen, ac er ei fod yn traddodi gwirioneddau digon teilwng, eto, nid oedd yn gallu enill un math o sylw, ac ymollyngai lluaws mawr o'r bobl i orweddian yn wasgarog ar y maes. Ymddangosai Mr. Williams yn dra anesmwyth ar hyd yr amser; aeth i lawr o'r areithfa, dro neu ddau, cerddai ychydig o amgylch, ond dychwelai yn fuan, ac yr oedd fel pe buasai wedi ei orchuddio gan bryder. Terfynodd y bregeth gyntaf. Daeth yntau yn mlaen at y ddesg; edrychai yn lled gyffrous, gan dremio yn o wyllt dros y dorf, ar y naill law a'r llall, a'i enaid yn eglur ar dân gan wres ei bwnc, a'i galon wedi ei llanw â meddyliau byw; yr oedd yn hynod gweled y dorf yn codi, a phawb yn ymsypio at eu gilydd,

  1. Testun Mr. Williams yn yr oedfa hon oedd 1 Pedr i. 18—19. Dichon mai yn y Gymanfa a gynaliwyd yn Llanerchymedd yn 1828 y pregethodd efe oddiwrth y testun uchod.