Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/199

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r braidd, gan yr olwg arno yn dychymygu ei glywed yn dywedyd gydag Elihu, "Yr ydwyf yn llawn geiriau, y mae yr ysbryd sydd ynof yn fy nghymhell i, wele fy mynwes fel gwin, nid agorid arno; y mae hi yn hollti fel costrelau newyddion," &c. Yr oedd pob wyneb ger ei fron fel pe buasai wedi ei wisgo âg arwyddion dysgwyliad wrtho. Darllenodd ei destun yn lled eofn a chyflym, "Eithr yn awr gwlad well y maent hwy yn ei chwenych, hyny ydyw, un nefol." Daeth yn fuan i afael âg enaid ei weinidogaeth, gan dywallt ffrwd o ddarluniad swynol o Ganaan, ac Abraham yn teithio ar ei hyd a'i lled, i gael golwg ar ei holl ddolydd lysion, a'i llethrau dengar, gan chwilio yn awyddus am y man lle y gallai adeiladu tref iddo ei hun a'i olynwyr, a'i galw "TREF ABRAM," &c. Yn ddiau, yr oedd ei ddarluniad dyddorol o'r hen batriarch mewn iaith mor ddestlus a theuluaidd, mewn parabl mor berseiniol, ac mewn lliwiau mor naturiol, a'i sylwadau hudolus ar y naill lethr a bryn, a gardd a pherllan; a'r llall, yn ddigon i syfrdanu teimlad y gwrandawr mwyaf clauar ei farn, a pheri iddo anghofio pa le yr oedd yn sefyll; gollyngodd y fath ddiluw o hyawdledd cerddorol i chwareu ar bob clust a chalon, fel cyn pen ugain munyd yr oedd holl deimladau y dorf yn gwbl at ei law a'i alwad; a phan yr oedd y bobl felly, fel pe buasent wedi colli pob hunanfeddiant, trodd yn sydyn, a gwaeddodd, "Na, na, dim o'r fath beth