Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/200

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nid am y wlad hono yr ymofynai, gwlad well oedd yn ei olwg ef o hyd," a dilynodd, wedi hyny, mewn darluniad o'r Ganaan nefol, yn ei thra rhagoroldeb, nes yr oedd pawb fel pe buasent yn dychymygu fod y ddaear lle y safent yn symud o dan eu traed. Wedi hyny daeth rhagddo at yr athrawiaeth a'r addysgiadau bwriadol, gyda dylanwad dihafal ar y dorf. Tro i'w hir gofio ydoedd.

Dywedodd un amaethwr cyfrifol o'r gymydogaeth am ei deimlad ar y pryd, "Yn wir, welwch chwi, yr oeddwn o'r braidd wedi anghofio nad yn Nghanaan yr oeddwn, yn cydgerdded âg Abraham, gan ei weled a'i glywed, pan yn edrych ansawdd y wlad, rhwng y bryniau a'r nentydd, ac yn gwneud ei adolygiad ar holl gyrau y fro." Arosodd y syniadau yn fyfyrdod byw gan bawb yn hir; yr oedd ef ei hun yn ystyried hwn yn un o droion hynotaf ei oes, canys buwyd yn ymddyddan âg ef am y bregeth flynyddau wedi hyny. Bernir fod ei bregeth am y nefoedd y tro hwn wedi bod yn foddion i godi sylw at yr enwad drwy yr ynys o'r bron. Yn gyferbyniol â'r bregeth hon, traddododd un yn mhen y ddwy flynedd wedi hyny, mewn cymanfa yn Amlwch, ar uffern, allan o'r ddameg ar y gwr goludog. Yr oedd hi Yr oedd hi yn adeg o ddiwygiad crefyddol drwy y wlad gyda phob enwad ar y pryd, a thorodd allan yn fath o orfoledd dan y bregeth. Nid oedd Mr. Williams yn gweled hyny yn gydweddol âg amcan ei genadwri, a throdd i