Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/201

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

roddi cynghor tyner i'r bobl, i ystyried ei weinidogaeth gyda myfyrdod dwys, a rhwng y naill beth a'r llall, ni chafod y tro hwnw mor hwyl a'r dylanwad a gawsai y tro blaenorol. Yr oedd ei amcan yn y ddwy bregeth i ddwyn bywyd ac angeu, nefoedd ac uffern, yn ddigon effeithiol gerbron, i adael argraph er daioni, ond aeth y bobl i wres teimladau yn rhy fuan, fel na chafodd ef weithio ei ffordd trwy y deall at y galon, fel y dymunasai, er mor effeithiol a hapus oedd ei draddodiad ar y pryd. Y mae y cyfeiriadau uchod yn ddigon i roddi mantais i bob sylwedydd craff weled yn mha ffordd yr oedd rhagoriaethau Mr. Williams yn dyfod i'r golwg egluraf."

Er y byddai Mr. Williams yn fynych oddicartref yn y cyfnod hwn, eto cynyddai yr eglwysi yn nghylchoedd neillduol ei ofal yn amlwg, ac yr oedd eglwys y Wern wedi cynyddu cymaint, fel erbyn y flwyddyn 1825, bu yn rhaid helaethu y capel i'w faintioli presenol, a phrynwyd hefyd ddarn o dir i'w ychwanegu at y fynwent. Ymestynai ei ofal hefyd, am yr eglwysi yn gyffredinol, fel os y goddiweddyd rhyw eglwys wan yn rhywle nes ei bod yn druan a helbulus gan dymhestl, ac yn ddigysur, byddai ef y parotaf o bawb i'w hamddiffyn a'i dyddanu. Bu yn helbulus iawn ar eglwys Rhuthyn pan chwythodd tymhestl oddiwrth yr adeiladydd arni, ond bu Mr. Williams yn noddydd ffyddlon iddi yn nydd ei chyfyngder, fel y dengys