Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/203

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr hyn a ddywed Mr. John Hughes, Rhuthyn, am y dymhest hono:—"Bu angenrhaid ar Mr. Williams i fyned i'r llys gwladol yn Liverpool, yn dyst yn achos Capel Rhuthyn. Efe a fu y prif offeryn yn y gwaith o brynu y tir gan Mr. Froude, Plasmadog, Wrexham, i adeiladu y capel arno. Teimlai Mr. Williams ddyddordeb dwfn, ac anarferol iawn yn eglwys Rhuthyn. Byddai yma yn aml yn ystod yr adeg yr oeddis yn adeiladu y capel, a hyny er mwyn gweled pa fodd yr oedd y gwaith yn myned yn mlaen. Hysbyswyd ef nad oedd yr adeiladydd ddim yn gweithredu fel y dylasai, a daeth yntau yma yn ddioedi. Gwelodd fod yr adeiladydd ar y ffordd i golledu yr eglwys fechan yn fawr, drwy wneuthur gwaith twyllodrus ar y capel. Ataliwyd ef rhag myned ddim yn mhellach gyda'r adeiladu. Penderfynodd fyned a'r achos i'w benderfynu mewn llys barn; ac nid oedd gan yr eglwys hithau ond myned yn mlaen i amddiffyn ei hunan. Dewiswyd Mr. Williams o'r Wern; Mri. Edward Jones, Post Office; a Thomas Jones, Draper, Rhuthyn, i dystiolaethu drosti yn y llys. Wedi gwrando tystiolaethau cedyrn, a galw y tystion, ni chafodd y rheithwyr un drafferth i benderfynu yn mhlaid yr eglwys. Bu raid i'r adeiladydd dalu swm mawr o iawn i'r eglwys, ac hefyd orphen y capel yn ol y cymeriad cyntaf. Nid oedd neb yn dyfod o Liverpool yn fwy llawen ei galon na Mr. Williams, a hyny am ddarfod