Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/204

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddynt enill buddugoliaeth i'r chwaer fechan oedd heb fronau iddi yn Rhuthyn. Cymerodd un amgylchiad neillduol arall le yn Rhuthyn yn nglŷn â Mr. Williams, nad oes un crybwylliad am dano yn unman, na neb yma, oddieithr un hen chwaer a minau fy hun yn unig, yn cofio dim yn ei gylch. Yr oeddym ni yn llygaid dystion o'r hyn a gymerodd le. Daeth Mr. Williams i Rhuthyn yr adeg hono hefyd, ar ryw neges yn nglŷn a'r capel, fel llawer tro arall. Yr oedd teulu duwiol, ac hefyd adnabyddus iawn iddo ef, mewn trallod chwerw o herwydd marwolaeth merch anwyl iddynt. Nid oedd yr ymadawedig wedi ei bedyddio yn Eglwys Loegr, ac oblegid hyny, daeth gair oddiwrth y Parson, foreu dydd y claddedigaeth, yn hysbysu na wnelai ef ddim ei chladdu, am y rheswm nad oedd wedi ei bedyddio yn yr Eglwys. Ychwanegodd hyny eu trallod yn fwy byth. Ond cyfododd iddynt ymwared o le arall. Eglurodd Mr. Edward Jones, Post Office, yr amgylchiadau i Mr. Williams, gan ei hysbysu fod Mr. Evan Thomas (tad y ferch) mewn trallod blin. Dywedodd yntau am iddo anfon gair i'r tad trallodus, i orchymyn iddo barotoi at gychwyn yr angladd, ac y byddai ef wrth y ty yn gwasanaethu; ac felly fu, gweddiodd yn nodedig o effeithiol. Aethpwyd a'r corff i'r fynwent, a rhoddwyd ef yn y bedd, yr hwn nad oedd ond mur y fynwent yn gwahanu rhyngddo a'r ffordd fawr oddiwrth eu gilydd. Safai Mr,