Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/205

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Williams ar risiau hen dy a elwir y Goat yr ochr arall i'r ffordd, gan wasanaethu o'r fan hono, canys nid oedd rhyddid iddo fyned i'r fynwent. Wedi gorphen y gwasanaeth, gorchymynodd i'r Rector a'r clochydd ddyfod ato i dderbyn y tâl arferol, a thalodd o'i logell ei hun holl draul y claddedigaeth. Edrychid ar Mr. Williams y pryd hwnw, fel un diystyr o'r defodau Eglwysig, a cheblid ef am hyny, ond yr oedd ganddo ef ddigon o nerth, fel nad oedd un perygl iddo lwfrhau yn amser cyfyngder. Er y gorfodir ni i ymgydnabyddu â ffeithiau. o'r fath a nodwyd, eto nis gallwn ymatal heb ymlawenhau yn y rhyddid eangach sydd genym ni, yr hwn a enillwyd i ni â mawr swm o ymdrechion a helbulon o eiddo cefnogwyr rhyddid gwladol a chrefyddol, ac yn arbenig wrth gofio fod i ni etifeddiaeth eangach yn y golwg, a hyny heb fod yn mhell oddiwrthym, ac yn y dyddiau hyny, ni bydd yn rhaid i weinidogion yr Arglwydd sefyll o'r tu allan i'r eglwys, chwaithach y tu allan i'r fynwent, wrth weinyddu mewn angladdau, canys eu traed a safant o fewn ei phyrth hi ar ddydd gogoneddus cydraddoldeb a brawdgarwch crefyddol.

Yn y flwyddyn 1828 rhoddodd Mr. Williams eglwys Harwd i fyny, a chymerodd y Parch. Jonathan Davies ei gofal mewn cysylltiad â Phenuel. Erbyn hyn, nid oedd gan ein gwrthddrych ond y Wern a'r Rhos yn uniongyrchol i