Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/206

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ofalu am danynt. Arferai draethu ei syniadau ar wahanol faterion yn eofn a diamhwys, ac oblegid hyny, ystyriai rhai brodyr gochelgar ei fod weithiau yn myned i eithafion." Anfonodd ei gyfaill y Parch. C. Jones, Dolgellau, lythyr ato unwaith, yn ei anog i fwy o ochelgarwch, a chafodd oddiwrtho yr atebiad canlynol:—

"Wern, Medi 26ain, 1829. [1]

FY ANWYL FRAWD,—

Yr wyf yn rhwymedig i chwi am y cynghor iachusol a gynwysai eich llythyr diweddaf. Awgrymasoch fy mod i yn dueddol i fyned i eithafion am bersonau a phethau, a rhoddasoch i mi gynghor difrifol i gymeryd gofal am fod yn gymedrol, ac i beidio meddwl a llefaru yn rhy fyrbwyll am bersonau neu bethau. Amen, ac Amen. Yr enghraifft a roddasoch oedd yr hyn a ddywedais yn Llanbrynmair; a thybiwn eich bod wedi rhoddi y gryfaf a allasech gofio i'm hargyhoeddi o'm bai. Ond yr wyf fi yn y tywyllwch, ac heb wybod pa le y mae yr eithafion yn yr ymadrodd hwnw. Ni honais unrhyw anffaeledigrwydd ar y pwnc. Ni roddais fy marn yn gyfraith i neb. Ni chondemniais neb. Dim ond amlygu fy nheimladau fy hun ar y mater. Prin yr wyf yn meddwl y buasai offeiriad Pabaidd yn ei deimlo. Yn eich llythyr nesaf, nid wyf yn

  1. Gwel Cofiant y Parch. Cadwaladr Jones, Dolgellau, tudal. 157—158.